Dim Un Plentyn yn cael ei Adael ar Ôl. Cynnig 7

Aelodau NEU Cymru yn gwneud galwadau i “beidio gadael dim plentyn ar ôl”.

Published:

NEU Cymru, undeb addysg mwyaf Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr nad yw’n gadael unrhyw blentyn ar ôl drwy gynyddu’r Grant Datblygu Disgyblion, a gweithio i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael pryd ysgol a brecwast am ddim bob dydd.

Mae Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cymru gynyddu cymorth i blant cyn oed ysgol a theuluoedd drwy ymestyn rhaglenni Dechrau’n Deg, a darparu cyllid ac adnoddau ar frys i ysgolion i ddelio â phlant sydd wedi’u trawmateiddio gan effeithiau tlodi megis cael eu gwneud yn ddigartref.

Dywedodd Mary van den Heuvel, Uwch Swyddog Polisi Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru:

“Mae ein haelodau wedi tynnu sylw, yn gwbl briodol, at her tlodi plant yma yng Nghymru. Mae ffactorau economaidd-gymdeithasol ynghyd â mathau eraill o anghydraddoldeb yn cael effaith sylweddol ar blant a'u dysgu.

“Rydym wedi gweld yr effaith y mae Llywodraeth Cymru wedi’i chael, wrth gyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn oed cynradd, ac mae’n hollbwysig bod pryd o fwyd ar gael i bob plentyn – waeth beth fo’i oedran/cyfnod addysg.

“Ni all ysgolion gefnogi plant ar eu pen eu hunain; maent angen cyllid a chymorth gan ystod o wasanaethau yn y gymuned. Mae angen i'r Grant Datblygu Disgyblion gynyddu, i adlewyrchu'r cynnydd yng nghostau darparu cymorth i ysgolion.

“Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi plant sy’n byw mewn tlodi, ond mae angen gwneud mwy i sicrhau bod pob plentyn yn gallu cyflawni ei botensial ac nad yw’n cael ei ddal yn ôl gan ei amgylchiadau. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru ar y materion hollbwysig hyn.”

 

 

GORFFEN

 

Roedd testun y cynnig i gynhadledd ar y mater hwn fel a ganlyn

 

Cynnig 7. Dim Un Plentyn yn cael ei Adael ar Ôl – Mynd i'r Afael â Thlodi Plant

 

Mae Cynhadledd Cymru yn nodi bod y dieithrio cymdeithasol a deimlir gan ddysgwyr incwm isel yn aml yn cael ei waethygu gan fathau eraill o anghydraddoldeb, gyda phlant incwm isel o grwpiau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a grwpiau du yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn unig ac yn anhapus yn yr ysgol o gymharu â phlant gwyn Cymreig neu Brydeinig o statws economaidd-gymdeithasol tebyg.

 

Mae Cynhadledd Cymru yn cydnabod ymgyrch Dim Un Plentyn yn cael ei Adael ar Ôl yr NEU yn y DU sy’n brwydro i chwalu’r rhwystrau y mae tlodi yn eu gosod o ran mynediad cyfartal i addysg. Mae hefyd yn cydnabod y gwaith a wneir yn genedlaethol ac yng Nghymru gan yr NEU ar y cyd â’r Grŵp Gweithredu ar Dlodi.

 

Mae Cynhadledd Cymru yn galw ar NEU Cymru trwy'r adran weithredol i drefnu ac ymgyrchu i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i:

 

  1. Gynyddu’r Grant Datblygu Disgyblion a sicrhau ei fod o leiaf yn cyfateb i’r gorau a gynigir gan weddill y DU ac yn adlewyrchu’r pwysau chwyddiant y mae addysg ac ysgolion yn ei wynebu.
  2. Weithio i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael pryd ysgol a brecwast am ddim bob dydd.
  3. Gydnabod na all ysgolion ar eu pen eu hunain oresgyn y cysylltiadau rhwng tlodi plant a chyflawniad isel. Sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cadw at y nodau datganedig yn ei chenhadaeth genedlaethol a bod pob sector a rhan o gymdeithas (gan gynnwys gwasanaethau cymunedol y tu allan i’r ysgol) yn ymwneud â chefnogi’r bobl ifanc hyn a mynd i’r afael â thlodi plant.
  4. Gynyddu cymorth i blant cyn oed ysgol a theuluoedd drwy ymestyn rhaglenni Dechrau’n Deg.
  5. Ddarparu cyllid ac adnoddau ar frys i ysgolion i ddelio â phlant sydd wedi’u trawmateiddio gan effeithiau tlodi megis cael eu gwneud yn ddigartref.

 

Fel addysgwyr, rydym yn gwybod yn uniongyrchol sut mae tlodi yn cyfyngu ar gyfleoedd bywyd plant ac yn effeithio’n sylweddol ar eu profiad addysgol a’u canlyniadau yn yr ysgol. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i adael dim plentyn ar ôl.

Back to top